Text Practice Mode
Cystadleuaeth Teipio 2025 (Bl. 3-6)
created Mar 11th, 11:42 by arlottel7
0
126 words
68 completed
0
Rating visible after 3 or more votes
saving score / loading statistics ...
00:00
"Y gwm hwn," meddai Mr Wonka wedyn, "yw fy nyfais ddiweddaraf, yr un orau a'r fwyaf anhygoel! Pryd o fwyd gwm cnoi yw e! Mae ... Mae ... mae ... Mae'r darn bach yna o gwm sy'n gorwedd fan yna'n bryd o fwyd tri chwrs cyfan ar ei ben ei hun!" "Beth yw'r dwli yma?" meddai un o'r tadau. "Syr annwyl!" meddai Mr Wonka, "pan fydda i'n dechrau gwerthu'r gwm yma yn y siopau bydd popeth yn newid! Dyna fydd diwedd ceginau a choginio! Fydd dim angen gwneud mwy o siopa! Dim mwy o brynu cig a bwydydd eraill! Fydd dim cyllell a ffyrc adeg bwyd! Dim platiau! Dim golchi llestri! Dim sbwriel! Dim llanast! Dim ond stribed bach o gwm cnoi hud Mr Wonka.
